Genesis 40

Breuddwydion y ddau garcharor

1Beth amser wedyn, dyma brif-wetar
40:1 prif-wetar Roedd
a pen-pobydd y palas brenhinol yn pechu yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
2Roedd y Pharo yn wyllt gynddeiriog gyda'i ddau swyddog, 3a thaflodd nhw i'r carchar ble roedd Joseff, sef carchar capten y gwarchodlu. 4Rhoddodd y capten y gwaith o edrych ar eu holau i Joseff. Roedd yn gweini arnyn nhw, a buon nhw yn y carchar am amser hir.

5Un noson dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael breuddwyd – prif-wetar a pen-pobydd brenin yr Aifft, oedd yn y carchar. Cafodd y ddau freuddwyd, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd. 6Pan ddaeth Joseff i mewn atyn nhw y bore wedyn, sylwodd fod y ddau yn poeni am rywbeth. 7Felly gofynnodd iddyn nhw, “Pam ydych chi'n edrych mor ddigalon?” 8A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'r ddau ohonon ni wedi cael breuddwydion neithiwr ond does neb yn gallu esbonio'r ystyr i ni.” Atebodd Joseff, “Dim ond Duw sy'n gallu esbonio'r ystyr. Dwedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.”

9Felly dyma'r prif-wetar yn dweud wrth Joseff am ei freuddwyd, “Yn fy mreuddwyd i roeddwn i'n gweld gwinwydden. 10Roedd tair cangen ar y winwydden. Dechreuodd flaguro a blodeuo, ac wedyn roedd sypiau o rawnwin yn aeddfedu arni. 11Roedd cwpan y Pharo yn fy llaw. A dyma fi'n cymryd y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan y Pharo, a'i roi iddo i'w yfed.” 12Dwedodd Joseff wrtho, “Dyma'r ystyr. Mae'r tair cangen y cynrychioli tri diwrnod. 13Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn rhoi dy swydd yn ôl i ti. Byddi di'n rhoi ei gwpan i'r Pharo eto, fel roeddet ti'n arfer gwneud pan oeddet ti'n brif-wetar. 14Ond cofia amdana i pan fydd pethau'n mynd yn dda arnat ti. Gwna ffafr â mi, a sonia wrth y Pharo amdana i, i minnau gael dod allan o'r carchar yma. 15Ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dw i wedi gwneud dim byd i haeddu cael fy rhoi yn y dwnsiwn yma.”

16Pan welodd y pen-pobydd fod yr esboniad yn dda, dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Ces i freuddwyd hefyd. Ro'n i'n cario tair basged o fara gwyn ar fy mhen. 17Yn y fasged uchaf roedd pob math o fara a chacennau wedi eu pobi i'r Pharo ond roedd yr adar yn eu bwyta nhw o'r fasged oedd ar fy mhen i.” 18A dyma Joseff yn dweud, “Dyma ydy'r ystyr. Mae'r tair basged yn cynrychioli tri diwrnod. 19Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd, ac yn rhoi dy gorff ar bolyn, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd di.”

20Ddeuddydd wedyn roedd pen-blwydd y Pharo, a dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Daeth â'r prif-wetar a'r pen-pobydd allan o'r carchar. 21Rhoddodd ei swydd yn ôl i'r prif-wetar, a dechreuodd weini ar y Pharo eto. 22Wedyn gorchmynnodd grogi corff y pen-pobydd ar bolyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. 23Ond anghofiodd y prif-wetar yn llwyr am Joseff.

Copyright information for CYM